P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein
hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg, Gohebiaeth – Deisebydd at y
Pwyllgor, 13.01.20
Diolch am eich
ebost. O ran sylwadau ychwanegol:
- Nid mater o
“brandio” sydd dan sylw yma - nid gwerthu ffa pôb
yw’r dasg - ond gofyn i’r Cynulliad annog Llywodraeth
Cymru i ddefnyddio Cymru a Chymry mewn dogfennau swyddogol yn yr
iaith Gymraeg ac yn y Saesneg er mwyn dangos yn glir ein bod yn
genedl sydd yn diffinio ein hunain.
- Mae diffinio
ein hunain fel cenedl ar adeg pan mae mudiadau unoliaethol a
“Phrydeinig” (h.y. Saesnig) a’u bryd (mae’n
ymddangos) i danseilio ein cenedligrwydd, ac yn wir dad-ymrymuso a
hyd yn oed diddymu'r Cynulliad, yn eithriadol o bwysig o ran hybu
meddylfryd seicolegol iach ein cenedl. Drwy arwain y ffordd gall y
Llywodraeth ddangos yn glir ein bod yn genedl sy’n ymfalchio
yn ein hunaniaith ac am gymryd ein lle priodol yn y
byd.
- Rwy’n
falch gweld bod Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn
nodi ei chefnogaeth i annog pobl i ddefnyddio “Cymru” a
Cymry” mewn deunydd Saesneg.
Hoffwn ddiolch
i’r Pwyllgor Deisebau am drafod y mater yma.
Yn
gywir